Agorir drysau Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli i ddisgyblion ym mis Medi 2021 am y tro cyntaf, pedwaredd ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg Casnewydd, i fodloni'r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg.
I gychwyn lleolir yr Ysgol yng Nghaerllion ond ei chartref hir dymor fydd yng nghanol dinas Casnewydd yn ardal Pillgwenlli.
Cefndir enw Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli fel y nodir yn llyfr Richard Morgan: Mae Pill yn ddarn o ddŵr (tidal creek) ac roedd yr ardal yn llawn o nentydd (reens) felly dyma o le ddaeth y Nant. Roedd y Gwenlli yn rhannol cadw’r enw cyfarwydd ar yr ardal ond hefyd yn cymryd ail ystyr Richard Morgan sef y gwen llif (white flood neu sea) ac mae modd dehongli hwn fel tonnau’r môr.
Mae logo Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli yn dathlu diwylliant morwrol dinas Casnewydd.
Fe fydd ein teuluoedd yn ymgartrefi mewn man cysgodol, lle i ollwng yr angor am dipyn a datblygu o fewn cynefin cymunedol Nant Gwenlli yn barod i hwylio i’r dyfodol.