Gwisg Ysgol

Mae pob plentyn yn gwisgo ein gwisg ysgol. Credwn fod gwisg ysgol yn cynnal balchder ac ymdeimlad o berthyn i Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli. Rhydd y wisg ymdeimlad o hunaniaeth i’r plant yn arbennig pan fyddant ar ymweliad ysgol a phan fyddant yn perfformio’n gyhoeddus, e.e. côr yr ysgol, partïon canu ac ati. Gofynnwn i bob plentyn wisgo’r wisg hon.

ng-polong-cardi

Gwisg Ysgol
Siwmper Glas gyda bathodyn yr ysgol wedi ei wnio.
Cardigan Glas gyda bathodyn yr ysgol wedi ei wnio.
Crys polo – Derbyn yn unig Gwyn plaen / Gwyn gyda bathodyn yr ysgol wedi ei wnio.
Siaced ‘fleece’ Glas gyda bathodyn yr ysgol wedi ei wnio (eitem opsiynal ychwanegol ar gyfer tywydd oer.)
Sanau / Teits Llwyd

 

Fe fydd modd i chi brynu gwisg ysgol o Beam Sports & Schoolwear, Stryd Cambrian Casnewydd. 

Gwisgir sgertiau /trowsus plaen llwyd gyda’r uchod. Ni chaniateir i’r plant wisgo jîns. Pwysleisiwn ar bob adeg y dylai’r plant wisgo esgidiau du priodol i’r ysgol (DIM SODLAU UCHEL NAC ESGIDIAU RHEDEG). Yn yr haf gall y plant wisgo ffrog gingham /streip coch a gwyn neu trowsus byr llwyd a chrys t (Meithrin) a chrys polo yr ysgol (Derbyn I Flwyddyn 6). Gellir gwisgo sanau gwyn yn yr Haf. Ni chaniateir i blant wisgo sandalau. Dylid marcio /labelu enw’r plentyn yn glir ar bob dilledyn. Dyma’r unig ffordd o adnabod dillad ac mae’n ei gwneud hi’n haws pan fydd dilledyn yn mynd ar goll.

Dylai bagiau fod o faint rhesymol gan nad oes llawer o le yn yr ystafelloedd cotiau. Dylech labelu pob dilledyn a darn o offer sy’n eiddo i’ch plentyn gyda’u henw yn llawn.

 

Tlysau

Mae rheolau’r ysgol yn caniatáu i styd gael ei gwisgo yn y glust, ond yn gwahardd unrhyw dlysau eraill (ac eithrio oriawr). Mae modrwyon, breichledi a chadwyni yn beryglus iawn mewn amgylchedd ysgol ac ni ddylid eu gwisgo ar unrhyw achlysur. Cytunwyd ar y rheolau hyn i atal plant rhag cael eu hanafu wrth chwarae neu pan fo gwers addysg gorfforol ac i osgoi tristwch diangen o ganlyniad i golli eitemau personol. Ni chaniateir gwisgo unrhyw dlysau yn ystod gwersi addysg gorfforol. Ni chaniateir gwisgo farnis ewinedd yn ystod oriau’r ysgol.

 

Gwisg Addysg Gorfforol – Derbyn i Flwyddyn 6

Mae pob plentyn yn yr ysgol yn cael gwers addysg gorfforol unwaith neu ddwywaith yr wythnos. Mae addysg gorfforol yn rhan bwysig o gwricwlwm yr ysgol ac mae’n orfodol i bob plentyn; nid opsiwn ydyw, ac fe fydd angen gwisg i newid arnynt. Dylid labelu pob dilledyn yn glir ag enw eich plentyn.

Ar ddechrau’r flwyddyn academaidd, bydd yr athrawon dosbarth yn rhoi gwybod i’r plant a’r rhieni beth fydd ei angen ac ar ba ddiwrnodau y dylid dod â gwisg addysg gorfforol.

Yn unol â rheolau Iechyd a Diogelwch ni chaniateir gwisgo tlysau yn ystod gwersi addysg gorfforol. Noder hefyd na all eich plentyn gymryd rhan mewn gwersi addysg gorfforol nes bydd tyllau newydd wedi gwella. Os bydd plant am gael tyllau yn eu clustiau, gofynnwn i hyn gael ei wneud ar ddechrau gwyliau’r Haf er mwyn i’r twll wella erbyn dechrau’r tymor. Rhaid i bob plentyn sy’n cymryd rhan mewn gwersi addysg gorfforol yn y brif neuadd wneud hynny’n droednoeth.