Disgwir i bob plentyn gyrraedd yr safle erbyn 8:55 a.m. fel ei bod yn y dosbarthiadau ebyn 9:00a.m. Os bydd Disgyblion yn cyrraedd yn hwyr mae’n rhaid i’r oedolyn gwblhau y ffurflen yn y feil Plant Sy’n Cyrraedd yn Hwyr a leolir yn y swyddfa.

Absenoldeb

Os bydd disgybl yn absennol am unrhyw reswm arall, gofynnir i’r rhieni i ffonio ar ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb ac yna i ddanfon nodyn ysgrifenedig neu e-bost gyda’r plentyn ar ei d/ddiwrnod cyntaf yn ôl i egluro’r absenoldeb – nid yw eglurhad llafar gan y plentyn yn dderbyniol. Mae absenoldeb heb ei awdurdodi yn absenoldeb nad yw’n cael ei gymeradwyo neu nad oes esboniad digonol drosto. Bydd yr ysgol yn monitro disgyblion sy’n hwyr ac yn absennol yn ofalus a chyson iawn.

Bydd yr athrawon dosbarth yn hysbysu’r Pennaeth os bydd disgyblion yn absennol neu’n hwyr yn rheolaidd. Bydd y pennaeth yn cysylltu â’r rhieni er mwyn ceisio datrys y sefyllfa. Os bydd y sefyllfa yn parhau, hysbysir y Swyddog Lles Addysgol (EWO). Rôl y Swyddog yw helpu’r rhieni a’r Awdurdod Addysg Lleol i sylweddoli eu cyfrifoldebau statudol o ran presenoldeb ysgol.

Swyddog penodedig Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli yw Claire Bennett.