Cyngor yr Ysgol a’r Cyngor Eco

Rydyn yn cymryd barn ein plant o ddifrif, eu hysgol nhw yw Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli. Mae’r Cyngor Ysgol yn cynnwys disgyblion o bob blwyddyn ysgol, bydd yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod materion sy’n bwysig i’r plant. Etholir aelodau i’r Cyngor Ysgol a’r Cyngor Eco gan y plant eu hunain ac mae ganddynt rôl werthfawr a phwysig i’w chwarae wrth benderfynu sut mae’r ysgol yn datblygu ac yn ymwneud â materion yr Amgylchfyd. Mae cyfleoedd niferus i blant drwy’r ysgol i gael lleisio eu barn i’r aelodau.

Siarter Iaith

Nod y Siarter Iaith yn syml ydy arwain at gynnydd yn nefnydd cymdeithasol plant o’r Gymraeg. Yn syml, cael y plant i siarad mwy o Gymraeg.

Mae rhaglen weithredu wedi ei llunio sydd yn rhaid i bob ysgol ei phasio. Rydym wedi bod yn llwyddiannus wrth gyflawni’r Wobr Efydd ac rydyn nawr yn gweithio tuag at y lefel  nesa’ sef y Wobr Arian.  Mae Gwobr Aur yn y drydedd flwyddyn.

#cyngorecoygng

#cyngorysgolygng

#siygng

#llesygng

#digidolygng