Mae presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol yn hanfodol er mwyn sicrhau parhad, datblygiad a dilyniant mewn addysg. Disgwylir i’r plant fynychu’r ysgol yn brydlon ac yn rheolaidd - oni fydd rheswm dilys dros beidio â gwneud hynny.
Ni ellir pwysleisio gormod bod presenoldeb rheolaidd a phrydlon yn hanfodol er mwyn i blentyn wneud y cynnydd gorau posibl. Gofynnir yn garedig i chi drefnu apwyntiadau meddygol y tu allan i oriau ysgol.
Nid oes gan rieni/gwarchodwyr hawl awtomatig i dynnu disgyblion o'r ysgol i gymryd gwyliau yn ystod y tymor ysgol, ac yn y gyfreithlon, rhaid gwneud cais am ganiatâd o flaen llaw. Ar y llaw arall, gallai fod amgylchiadau sy'n gwarantu caniatáu i ddisgybl gymryd amser i ffwrdd o'r ysgol yn ystod y tymor ysgol. Penaethiaid, felly, sydd yn y sefyllfa orau i wneud y penderfyniad. Mae Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 yn datgan bod gan benaethiaid bŵer disgresiwn i roi caniatâd i ddisgybl fynd ar wyliau teuluol yn ystod y tymor pan fo rhieni/gwarchodwyr yn gofyn am gael gwneud hynny. Ar wahân i amgylchiadau eithriadol, ni ddylid caniatáu mwy na 10 diwrnod o absenoldeb at y diben hwn.
Fe fydd y Pennaeth yn ystyried amgylchiadau unigol fesul achos. Bydd amryw o agweddau yn cael eu hystyried, gan gynnwys: pa adeg o'r flwyddyn y gofynnir am wyliau; am ba gyfnod y gofynnir am wyliau ac at ba ddiben; yr effaith a gaiff cymryd gwyliau ar barhad y dysgu, ar amseru arholiadau neu brofion; amgylchiadau'r teulu a dymuniadau'r rhieni; yn ogystal â phresenoldeb cyffredinol a chyflawniad y disgybl.
Os bydd pennaeth yn penderfynu peidio â chytuno i gais gan riant/gwarchodwr i fynd â'i blentyn ar wyliau yn ystod y tymor ysgol, a'r rhiant/gwarchodwr yn penderfynu mynd â'i blentyn er gwaethaf hynny, caiff hyn ei ystyried yn absenoldeb 'anawdurdodedig'.
Felly, bydd unrhyw absenoldeb yn cael ei ganiatáu yn unig yn ôl disgresiwn y Pennaeth a fydd yn seliedig ar bresenoldeb y plentyn ar hyd y 12 mis diwethaf. Rhaid i bob cais am wyliau yn ystod y tymor cael ei gofnodi ar ffurflen gais yr ysgol 'Cais Absenoldeb' a bydd rhieni/gwarchodwyr yn cael eu hysbysu o benderfyniad y Pennaeth yn ysgrifenedig wedi hynny.